SL(6)425 - Rheoliadau Cynlluniau Gostyngiadau’r Dreth Gyngor (Gofynion Rhagnodedig a’r Cynllun Diofyn) (Cymru) (Diwygio) 2024

Cefndir a Diben

‘Cynlluniau Gostyngiadau'r Dreth Gyngor’ (“CTRS”) yw'r dulliau a ddefnyddir gan awdurdodau lleol yng Nghymru i roi cymorth i aelwydydd ar incwm isel er mwyn iddynt allu talu eu treth gyngor.

Rheolir gweithrediad CTRS yng Nghymru gan Reoliadau Cynlluniau Gostyngiadau’r Dreth Gyngor a Gofynion Rhagnodedig (Cymru) 2013 a Rheoliadau Cynlluniau Gostyngiadau’r Dreth Gyngor (Cynllun Diofyn) (Cymru) 2013 (y cyfeirir atynt ar y cyd fel "Rheoliadau CTRS 2013").

Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau CTRS 2013 i uwchraddio ffigurau penodol a ddefnyddir i gyfrifo hawl ceisydd i ostyngiad o dan CTRS. 

Mewn Datganiad Ysgrifenedig ar 5 Rhagfyr 2023 gan y Gweinidog Cllid a Llywodraeth Leol, dywedodd Rebecca Evans AS y bydd hyn yn:

"sicrhau y bydd y cynllun a fydd ar waith ar gyfer 2024-25 yn adlewyrchu'r cynnydd mewn costau byw.  Bydd hyn yn helpu i sicrhau bod y cynllun yn cadw hawliau ar gyfer bron i 261,000 o aelwydydd incwm isel ledled Cymru sy'n dibynnu ar y cymorth hwn."

Yn ogystal, mae'r Rheoliadau yn gwneud darpariaeth i sicrhau:

-      nad effeithir yn negyddol ar unrhyw geisydd sy'n byw yng Nghymru oherwydd ei fod wedi cael ôl-daliad rhiant gweddw neu daliad cymorth profedigaeth yn ôl-weithredol;

-      bod ceiswyr yng Nghymru yn cael eu trin yn yr un modd ar gyfer unrhyw daliad digollediad neu daliad cymorth a wneir mewn cysylltiad â methiannau system Horizon Swyddfa'r Post;

-      bydd taliadau digollediad sy'n ymwneud â'r cynllun Taliad Niwed Drwy Frechiad neu'r Ymchwiliad i Waed Heintiedig hefyd yn cael eu diystyru wrth gyfrifo cyfalaf ceisydd o dan y cynllun.

Y weithdrefn

Cadarnhaol drafft

Mae Gweinidogion Cymru wedi gosod drafft o'r Rheoliadau gerbron y Senedd. Ni all Gweinidogion Cymru wneud y Rheoliadau oni bai fod y Senedd yn cymeradwyo'r Rheoliadau drafft. 

Materion technegol: craffu

Nodir y tri phwynt a ganlyn i gyflwyno adroddiad arnynt o dan Reol Sefydlog 21.2 mewn perthynas â'r offeryn hwn.

1.    Rheol Sefydlog 21.2(v) – bod angen eglurhad pellach ynglŷn â'i ffurf neu ei ystyr am unrhyw reswm penodol

Yn rheoliadau 3(a) a 12(a), disgrifir y diffiniadau newydd fel rhai sydd wedi'u mewnosod "yn y lleoedd priodol" yn narpariaethau dehongli'r ddwy set o Reoliadau. Fodd bynnag, mae'r dull hwn ond yn briodol os yw'n glir sut mae'r rhestrau o ddiffiniadau wedi'u trefnu yn nhestun y ddwy iaith (sydd fel arfer yn nhrefn yr wyddor). Yn nhestun Cymraeg y ddwy gyfres o Reoliadau, nid yw'r diffiniadau’n cael eu trefnu yn ôl yr wyddor Gymraeg fel sy'n digwydd fel arfer mewn Offeryn Statudol Cymraeg ond yn dilyn yr un drefn â'r rhestr o'r diffiniadau yn y testun Saesneg. Felly, efallai na fydd yn amlwg i'r darllenydd ble i fewnosod y diffiniadau newydd yn y testun Cymraeg y tro hwn, a byddai'n rhoi mwy o sicrwydd i nodi ar ôl pa gofnod y dylid mewnosod y diffiniadau newydd – gweler Drafftio Deddfau i Gymru, paragraff 7.17.

2.    Rheol Sefydlog 21.2(vi) – ei bod yn ymddangos bod ei waith drafftio'n ddiffygiol neu ei fod yn methu â bodloni gofynion statudol

Yn rheoliad 8(d), mae'r geiriau agoriadol yn datgan bod y diwygiadau dilynol a rifwyd fel is-baragraffau (i) i (vii) yn cael eu gwneud i "yn yr ail golofn (swm) o’r Tabl ym mharagraff 17..."  yn Atodlen 7. Fodd bynnag, ni wneir y diwygiadau terfynol yn is-baragraffau (vi) a (vii) i baragraff 17 ond i ffigurau a geir ym mharagraffau 23 a 24 o Atodlen 7. Felly, mae strwythur rheoliad 8(d) yn anghywir a dylai is-baragraffau (vi) a (vii) fod wedi'u rhifo fel paragraffau (e) ac (f) fel y gwneir mewn darpariaeth debyg a geir yn ddiweddarach yn rheoliad 16(d) i (f) o'r Rheoliadau hyn.

3.    Rheol Sefydlog 21.2(vi) – ei bod yn ymddangos bod ei waith drafftio'n ddiffygiol neu ei fod yn methu â bodloni gofynion statudol

Yn rheoliad 13(c)(i), yn y testun Saesneg, dylai'r disgrifiad o'r diwygiad ddatgan "yn y testun Saesneg" oherwydd mai dim ond i destun Saesneg paragraff (b) yn is-baragraff (9) o baragraff 28 o'r cynllun diofyn y gwneir y diwygiad hwn. Mae'r cyfieithiad Cymraeg eisoes yn cynnwys y geiriau hynny yn rheoliad 13(c)(i) oherwydd nad oes unrhyw gysylltiad cyfatebol i'w hepgor ar ddiwedd paragraff (b) yn is-baragraff (9) o baragraff 28 yn nhestun Cymraeg y cynllun diofyn. Felly, nid yw'r drafftio yn dilyn y canllawiau a geir yn Drafftio Deddfau i Gymru, paragraff 7.9(2) wrth ddiwygio testun un iaith yn unig o ddeddfiad dwyieithog sy'n bodoli eisoes. Mae hefyd yn golygu bod gwahaniaeth rhwng y disgrifiadau a roddir yn y testunau Saesneg a Chymraeg o reoliad 13(c)(i).

Rhinweddau: craffu    

Ni nodir unrhyw bwyntiau i gyflwyno adroddiad arnynt o dan Reol Sefydlog 21.3 mewn perthynas â’r offeryn hwn.

Ymateb Llywodraeth Cymru

Mae angen ymateb gan Lywodraeth Cymru.

Cynghorwyr Cyfreithiol

Y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad

3 Ionawr 2024